2015 Rhif  1878 (Cy. 275)

TAI, CYMRU

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu  hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i’r Ddeddf a geir yn Neddf Cynllunio a Digolledu 1991.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £47,000 i £53,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £4,700 i £5,300. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref sy’n daladwy, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £4,700 i £5,300.

Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sydd wedi eu newid ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy’n daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sydd wedi ei ddadleoli yn yr annedd.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 10 Rhagfyr 2015 neu ar ôl hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 yn parhau i gael effaith o ran dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent yn cael eu dirymu.

 


2015 Rhif 1878 (Cy. 275)

TAI, CYMRU

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015

Gwnaed                              9 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       13 Tachwedd 2015

Yn dod i rym                        10 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973([1]) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.

Symiau diwygiedig y taliad colli cartref

2. Pan fo’r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—

(a)     £53,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;

(b)     £5,300 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac

(c)     £5,300 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.

Dirymu ac arbedion

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008([3]) wedi eu dirymu.

(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

 

 

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

9 Tachwedd 2015



([1])           1973 p. 26; amnewidwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) gydag effaith o 25 Medi 1991 (gweler erthygl 3 o O.S. 1991/2067).

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2008/2845 (Cy. 255).